
Dyma’r tudalennau, neu adrannau, ein Prosbectws, yng Nghymraeg ac yn Saesneg.
Dych chi ar y tudalen wedi ei amlinellu yn goch. I fynd i dudalen arall, cliciwch arni hi.
Dim tudalen cyfwerth yng Nghymraeg
No equivalent page in Welsh
I fynd yn ôl
i brif safle
Ysgol Carno, caewch y tab neu’r ffenestr yma.
Medi
2009


I lawer o bobl, mae ysgol bentref yn golygu delwedd ramantus ond hwyrach gydag amheuon am addysg fodern gadarn. Beth yw’r gwir?
Gan roi teimlad ac emosiwn i un ochr, mae’n ffaith fod ysgolion pentref yn dal i gael lle amlwg yn eu cymunedau ac yn lefydd lle bydd pobl ifanc yn cael dechrau bendigedig i fywyd.
Mae pob ysgol yn dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn cael eu harolygu yn drylwyr ac yn reolaidd. Yng Nghymru, mae’r canlyniadau Lefel A a thu hwnt gorau yn dod mewn ardaloedd gyda’r cyfartaledd mwyaf o ysgolion bach, ac mae hyn yn anhebygol o fod yn gyd ddigwyddiad.
Pa mor aml y byddwch yn clywed am broblem, mewn ysgolion bach, gyda chyffuriau, gwaharddiadau, chwarae triwant, gangiau, ymddygiad gwrth gymdeithasol a’r gweddill? Pan fydd plant yn cael addysg yn eu cymuned, mae cysylltiadau agos rhwng yr ysgol, gymuned, plant a rhieni – go anaml fydd y problemau yma yn codi – ac fe fydd unrhyw broblem sydd yn codi yn cael ei delio gyda yn aml yn ddigon anffurfiol.
Mae plant mewn ysgolion bach yn cael eu clodfori am eu dealltwriaeth a’u goddefgarwch wrth eu gilydd, er gwaethaf unrhyw wahaniaethau.
Beth yw’r pwrpas, mewn ysgol fawr, o gael neuadd braf gyda llwyfan a chyfleusterau gwych, os mai dim ond ychydig bach o’r plant sy’n cael cymeryd rhan yn y cyngerdd Nadolig? Mewn ysgol fach, bydd pob plentyn yn cymeryd rhan mewn pob gweithgaredd. (Fel mae’n digwydd, mae Ysgol Carno yn ffodus o gael neuadd fendigedig drws nesaf i’r ysgol, a mae pob plentyn yn elwa o gael profiadau ar y llwyfan).
Mae pob plentyn fel unigolyn a phawb – plant, rhieni a staff – yn adnabod eu gilydd. Oherwydd hyn, mae gan ysgol bentref awyrgylch ddiogel a chyfeillgar lle bydd plant yn ffynnu.
Doedd dosbarthiadau un oedran ddim wedi eu trefnu ar gyfer plant; fe’u trefnwyd ar gyfer ysgolion. Fel hynny, nid ydynt yn dangos beth sy’n digwydd yn y byd go iawn tu allan. Bydd ysgolion pentref fel arfer gyda dosbarthiadau cymysg – plant o oedrannau gwahanol. (Yn Ygsol Carno mae dau ddosbarth: Babanod – i blant o 4 i 7 oed, a’r Plant Iau ar gyfer plant o 7 i 11 oed). Yn y dosbarthiadau hyn, bydd y plant ieuengaf yn dysgu trwy wylio a chael help gan y rhai hynaf, er mantais i bob un. Bydd plant yn gweithio mewn grwpiau gallu, nid oedran gyda hyblygrwydd sy’n helpu’r plant a’r athrawon. Mae cydweithio a gweithio fel tim yn cael ei ddatblygu, a bydd y plant yn cymysgu yn hapus, tu mewn a thu allan i’r ysgol – y plant lleiaf a’r rhai hynaf.
Yn fyr, mae llawer o dystiolaeth sy’n awgrymu bod plant yn gadael ysgolion pentref yn fwy aeddfed a hyderus o’i cymharu a phlant mewn ysgolion mwy. Yn Ysgol Carno, mae mwy a bwyslais ar ddysgu am fywyd, ddim dysgu ar gyfer arholiadau yn unig.
Pan fydd plant yn cael eu haddysg yn eu cymuned, mae ganddynt y cyfle i gerdded neu feicio i’r ysgol gyda manteision iechyd gwell, profiadau addysgol a chymdeithasol. Hyd yn oed pan fydd plant yn dod mewn car, bydd rhieni yn cael cyfle i gyfarfod a sgwrsio gyda’i gilydd neu gyda’r staff, ddwywaith y dydd. Ni fydd hyn yn digwydd pan fydd bysus yn cario plant i’r ysgol ardal, arferiad sy’n arwain at lawer o broblemau.
Pan fydd ysgol yn ran o gymuned, mae’n naturiol y bydd cysylltiadau gyda busnesau lleol, ffermydd, cartrefi pobl hyn, eglwysi a chapeli, ayb. Unwaith eto, bydd plant a phawb yn elwa ac yn dysgu a pharchu bywyd cymunedol.

i bynciau ar y tudalen hwn


Mae cefnogwyr ysgolion cynradd mwy, sy’n gwasanaethu ardal eang yn nodi’r adnoddau a chyfleusterau ychwanegol sydd gan lawer ysgol, ond mae’n ddiddorol sylwi yn aml mae cynghorwyr sy’n dweud hyn, sydd a mwy o ddiddordeb mewn arbed arian a dim yn meddwl am fuddiannau’r plant! Mae ysgolion bach yn gallu ac yn cynnig addysg cystal a rhai mwy – fel mae’r corff arolygu Estyn yn cytuno – ac mewn llawer o ffyrdd maent yn cynnig profiadau gwell i blant.
